History : FøroyarFøroyar
Oddi ar Wicipedia
Grŵp o ynysoedd yng ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a'r Cefnfor Iwerydd yw'r Føroyar, Ynysoedd Faroe neu Ynysoedd Ffaröe (Ffaröeg Føroyar, Daneg Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Maen' nhw'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland. Maen' nhw'n dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948. Maen' nhw wedi cymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor. Preswylir 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
- Gweler hefyd
Categorïau: Føroyar | Gwledydd Daneg | Llychlyn | Tiriogaethau dibynnol | Ynysoedd Ewrop |
News
Photo
History
Site
france
espana
Türkiye
Oran
alger
mostaganem
tenes
cherchell
algérie
algérie
algerie
mostaganem
CV